Breuddwydia bachgen ifanc am ddianc realiti bywyd diflas yn Abertawe yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n ymuno â’r fyddin am y cyffro y cred y daw rhyfel, gan adael ei deulu, ei ffrindiau a’i frawd hŷn ar ôl.

Mae rhyfel yn bell o fod yn antur y meddyliodd y byddai, ac ar noson dyngedfennol yng Ngorffennaf 1916, yn ystod brwydr ofnadwy Coedwig Mametz, mae ei fywyd yn gwibio heibio ei lygaid wrth iddo orwedd wedi ei anafu mewn crater bom mwdlyd.

Mae Theatr na nÓg yn cymysgu realaeth llym o ryfel gyda eiliadau hudolus dwys gan ddefnyddio geiriau beirdd y Rhyfel Byd Cyntaf yn ogystal â cherddoriaeth wreiddiol hudol, i rannu stori ddifrodus am deulu, am gariad ac am golled.

Yn dod i Theatr Dylan Thomas yn Abertawe Hydref 2018

Drama a diwrnod cyfan o weithgareddau i goffáu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a Chan Mlynedd Pleidlais i Fenywod.

Perfformiadau drwy gyfrwng y Saesneg Medi 18 – Hydref 26, 2018
Perfformiadau drwy gyfrwng y Gymraeg Tachwedd 7-Tachwedd 16, 2018

Perfformiadau am 10am a 1pm Dydd Mawrth i Ddydd Gwener.

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a 3

I gael flas o'r hyn y gellir disgwyl, beth am wylio video o'n cynhyrchiad a perfformiwyd yn 2014:

Perfformiad gwefreiddiol yn cyfleu holl emosiynau y cyfnod - y balchder, tristwch, yr angerdd.
Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdar
Cast
Aled Ap Steffan
Davey (Perfformiadau Cymraeg)
Kieran Bailey
Charlie/Dad/Hettie/General
Huw Blainey
Davey (Perfformiadau Saesneg)
Lara Lewis
Rose
Geraint Rhys Edwards
Rhys/Sgt Major/Maude/General/Milwr Almaeneg
Cynhyrchiad
Keiron Self
Awdur
Daniel Lloyd
Cyfarwyddwr
Ian Barnard
Cynllunydd Sain
Kitty Callister
Cynllunydd
Elanor Higgins
Cynllunydd Goleuo
Barnaby Southgate
Cyfansoddwr & Chyfarwyddwr Cerdd
Cefnogwyr