Breuddwydia bachgen ifanc am ddianc rhag realaeth undonog bywyd yn Abertawe yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae e’n penderfynu i gofrestru am gyffro’r rhyfel gan adael ei deulu, ei ffrindiau a’i frawd hŷn ar ei ôl.
Mae’r rhyfel yn bell o’r antur y mae’n ei ddisgwyl fodd bynnag, ac ar un noson tyngedfenol yn ystod brwydr dychrynllyd Coedwig Mametz yng Ngorffennaf 1916, rhuthra ei fywyd cyfan o flaen ei lygaid wrth iddo orwedd wedi ei anafu yn y llaid.
Mewn stori a chaiff ei adrodd yn eu ffordd unigryw eu hun, cyfuna Theatr na nÓg erchylldra ryfel gydag eiliadau hudolus dwys gan ddefnyddio geiriau beirdd y Rhyfel Byd cyntaf yn ogystal â cherddoriaeth werin i rannu stori am deulu, am gariad ac am golled.
![Milwr ifanc yn edrych ar bluen wen yn ei law](/sites/default/files/styles/carousel/public/2021-07/WF%20old%201.jpg?itok=4ywXXObN)
![Menyw ifanc yn gwiso dillad o'r 1940au](/sites/default/files/styles/carousel/public/2021-07/WF%20old%202.jpg?itok=kZxSfFTT)
![Dau milwr o'r Ail Rhyfel Byd - un yn dal pluen wen](/sites/default/files/styles/carousel/public/2021-07/WF%20old%203.jpg?itok=e64TkD54)
![Dwy fenyw yn gweithio mewn ffatri arfau rhyfel](/sites/default/files/styles/carousel/public/2021-07/WF%20old%204.jpg?itok=Hfi1kzUQ)
![Tri milwr yn sefyll yn dal gyda cefndir oren](/sites/default/files/styles/carousel/public/2021-07/WF%20old%205.jpg?itok=H0KWF-No)
I weld mwy o luniau o'r cynhyrchiad - cliciwch yma