Rydym yn cynnig cymorth a mentora fel y gallwch ddysgu sgiliau newydd o fewn ein hadrannau drwy arsylwi neu drwy gwblhau tasgau yn ein swyddfa, ymarferion, cynyrchiadau a digwyddiadau cyhoeddus a phreifat.
Ein nod yw i weithio gyda gymaint o bobl ag sy’n bosib trwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Drwy gynnig cymorth ac adnoddau, gobeithiwn gyfrannu at eich datblygiad personol a phroffesiynol, a chynyddu'r defnydd o sgiliau newydd yn Theatr na nÓg ac mewn mannau eraill yn y diwydiant. Rydym yn edrych ymlaen i wahodd aelodau newydd i’r tîm!
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni drama@theatr-nanog.co.uk