Mae Owen Staton yn storïwr perfformiadol, yn awdur, yn gyfarwyddwr ac yn gyflwynydd podlediad Time between Times. Mae Owen wedi bod yn adrodd straeon o Gymru a thu hwnt am y rhan fwyaf o'i oes ac mae'n hoff iawn o chwedlau Cymreig. Enillodd ei sioe Edinburgh Fringe, Dark Heart of the Valley, wobr a arweiniodd at daith i UDA. Enwebwyd Time between Times yn ddiweddar yng nghategori 'Dewis y Gwrandäwr' yng Ngwobrau Podlediadau Prydain ac mae Owen yn ymddangos yn aml ar deledu a radio yn sôn am y rhyfedd. Mae'n 51 oed ac yn methu gwneud dim â'r hyn sydd ar ôl o'i wallt.