Magwyd Rachel yng Nghastell-nedd cyn symud i Friste ac wedyn ymlaen i astudio Celfyddydau Perfformio yn King Alfred’s College, Prifysgol Southampton. Ar ôl graddio, symudodd Rachel i Lundain a dechreuodd ei gyrfa mewn Rheoli Gweithrediadau a Theatr mewn theatrau yn cynnwys y Dominion Theatre, Regent’s Park Open Air Theatre a’r Donmar Warehouse.

Dychwelodd Rachel i Gymru yn 2019 i weithio i’r Welsh National Opera a Cardiff Theatrical Services. Ymunodd Rachel fel Rheolwr Cyffredinol Theatr na nÓg yn mis Mai 2022.

Mae Rachel yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr Guy, a’i mab, Teddy.