Rachel Jones yw Prif Weithredwr Arts & Business Cymru, elusen Gymreig sy’n arbenigo mewn hyrwyddo a galluogi partneriaethau creadigol sydd o fudd i’r ddwy ochr.

Yn wreiddiol o Gastell Nedd yn Ne Cymru, graddiodd Rachel mewn cerddoriaeth o Goldsmiths’ College, Prifysgol Llundain. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i mab ac yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser sbâr yn Ne Sir Benfro, ei chartref ysbrydol!

Mae Rachel wedi bod yn gefnogwr enfawr o waith Theatr na nÓg ers blynyddoedd lawer ac roedd yn falch iawn o gael y cyfle i ymuno â’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn 2023.