Breuddwydia bachgen ifanc am ddianc rhag realaeth undonog bywyd yn Abertawe yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae e’n penderfynu i gofrestru am gyffro’r rhyfel gan adael ei deulu, ei ffrindiau a’i frawd hŷn ar ei ôl.

Mae’r rhyfel yn bell o’r antur y mae’n ei ddisgwyl fodd bynnag, ac ar un noson tyngedfenol yn ystod brwydr dychrynllyd Coedwig Mametz yng Ngorffennaf 1916, rhuthra ei fywyd cyfan o flaen ei lygaid wrth iddo orwedd wedi ei anafu yn y llaid.

Mewn stori a chaiff ei adrodd yn eu ffordd unigryw eu hun, cyfuna Theatr na nÓg erchylldra ryfel gydag eiliadau hudolus dwys gan ddefnyddio geiriau beirdd y Rhyfel Byd cyntaf yn ogystal â cherddoriaeth werin i rannu stori am deulu, am gariad ac am golled.

Perfformiad gwefreiddiol yn cyfleu holl emosiynnau y cyfnod - y balchder, tristwch, yr angerdd, pob un wedi plethu'n glyfar i greu cynhyrchiad oedd yn portreadu teimladau'r cymeriadau. Diolch yn fawr.
Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdar
Cast
Aled Herbert
Charlie/Dad/Branwen/General/Milwr Almaeneg
Carwyn Jones
Davey
Chris Kinahan
Rhys/Sgt Major/Bronwen/General
Tonya Smith
Rose
Perfformiad ysgytiol llawn emosiwn ond a chyffyrddiadau hyfryd o hiwmor hefyd. Dysgodd ein disgyblion uwchradd fwy am hanes y cyfnod ac yn ogystal am ofynion Theatr mewn Addysg. Diolch yn fawr - rydyn ni'n mwynhau cynhyrchiadau Theatr na nÓg yn fawr iawn yn flynyddol.
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Cynhyrchiad
Keiron Self
Awdur
Geinor Styles
Cyfarwyddwr
Lisa Briddon
Rheolwr Llwyfan
Kitty Callister
Cynllunydd
Gethin Evans
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Aly Holmes
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol
Ceri James
Cynllunydd Goleuo
Lewis Jones
Cynllunydd Sain
Jak Poore
Cyfansoddwr
Emma Stevens Johnson
Hyfforddwr Llais & Acenion
Phil Williams
Cyfarwyddwr Symudiad
Perfformiad byth gofiadwy. Perfformiad arbennig o dda yn cyfleu erchylldra'r Rhyfel Byd 1af i'r dim. Perfformiad llawn teimlad. Diolch, fe wnaethom ni gyd fwynhau yn enfawr.
Ysgol Cynwyd Sant

I weld mwy o luniau o'r cynhyrchiad - cliciwch yma