Datganiad Hinsawdd
Mae Theatr na nÓg yn cydnabod ein bod mewn argyfwng hinsawdd a bod gennym gyfrifoldeb y tu hwnt i’n rhwymedigaethau cyfreithiol i anelu at niwtraliaeth garbon cyn gynted â phosibl.
Rydyn ni’n cydnabod natur fyrhoedlog y gwaith a grëir gan ein diwydiant, ac y gall pob rhan o gynhyrchiad y theatr gael effaith ar yr amgylchedd - o’r deunyddiau crai a ddefnyddir ar gyfer setiau, gwisgoedd, goleuadau a seiniau, i’r teithiau a gymerir gan y gynulleidfa i weld perfformiad.
Rydyn ni’n credu y gall ein straeon fod yn rhan o’r ateb am fod theatr yn gallu addysgu ac agor meddyliau pobl, yn ogystal â dyfnhau eu dealltwriaeth o’n byd naturiol. Er bod ein straeon blaenorol wedi canolbwyntio ar yr amgylchedd, rydyn ni’n cyfaddef nad yw hynny’n ddigon, a bod yn rhaid inni ailymrwymo i hoelio ein sylw ar yr amgylchedd oddi ar y llwyfan hefyd.
Byddwn yn parhau i graffu ar bob rhan o’n gweithrediadau, er mwyn lleihau ein heffaith a gwella ein perfformiad amgylcheddol. Byddwn yn ymgorffori ffactorau amgylcheddol ym mhob un o’n penderfyniadau busnes.
At hynny, byddwn yn annog ein staff, ein gwirfoddolwyr, y timau creadigol yr ydym yn gweithio gyda nhw, aelodau’r gynulleidfa a’n rhanddeiliaid i wneud yr un peth.
Er mwyn cyflawni ein nodau uchelgeisiol, rydyn ni wedi ysgrifennu Cynllun Gweithredu cynhwysfawr sy’n cwmpasu pob un o’n meysydd. Bydd hon yn ddogfen fyw a gaiff ei hadolygu a’i diweddaru bob deufis cyn cynnal ein Cyfarfodydd Bwrdd. Byddwn yn defnyddio’r ddogfen fel modd i herio ein hunain i fod yn well ac fel cyfle i ddathlu ein cyflawniadau.