Nadolig Norwyaidd yng Nghymru
Romjul - Y cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Mae Embla a Coeden Fach yn ddwy chwaer o Norwy sy'n cuddio rhag y "troliau" mewn eglwys fach wen yn Nociau Caerdydd.
Maen nhw'n gwahodd ni i gychwyn ar daith gerddorol Nadoligaidd, llawn caneuon gwerin a straeon o dirwedd oer Norwy yn ystod y tymor hudolus - Romjul - cyfnod i ni ymlacio, mwynhau'r gwyliau, a threulio amser gyda theulu a ffrindiau.
Mae Romjul yn gynhyrchiad teuluol Nadoligaidd newydd sydd llawn hwyl yr Ŵyl. Ymunwch â ni am ddrama, cân a rhyfeddod. Wedi'i gyflwyno gan Ganolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd a Theatr na nÓg, a'i gefnogi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae hyn yn berfformiad iaith Saesneg fydd yn para 45 munud.
Mae tocynnau'n £10 yr un ac ar gael i'w brynu, naill ai wyneb yn wyneb o Ganolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd neu ar lein drwy ddilyn y dolennu isod.
Ysgolion
Ar gael Dydd Mawrth 2il - Dydd Gwener 12eg Rhagfyr:
- Perfformiad o 'Romjul' yng Nghanolfan Celfyddydau'r Eglwys Norwyaidd (yn 10yb neu 1yp)
- Sesiwn holi ac ateb gyda'r cast
- Arddangosfa ddewisol ar y Norwyaid yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd
- Adnoddau ar-lein am ddim
Mae sioe newydd Theatr na nÓg, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn cyflwyno themâu fel:
-
Y Norwyaid yng Nghaerdydd
-
Adrodd Straeon a Chwedlau Gwerin Norwyaidd
-
Ffoaduriaid a'r Ail Ryfel Byd/Gwrthdaro
I archebu e-bostiwch Thomas@norwegianchurchcardiff.com
Faint mae'n ei gostio?
- Disgyblion: £6 yr un (cynnwys TAW)
- Un athro am ddim i bob deg disgybl
- Oedolion ychwanegol: £6 yr un
- Cynorthwywyr Addysgu 1 i 1: Am ddim
Rydym wedi derbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol i roi cymhorthdal sylweddol i'ch ymweliad. Fel rhan o'r cyllid hwn, mae angen i ni adrodd yn ôl i'n harianwyr gydag adborth gan gyfranogwyr.
I dderbyn y gost gymorthdaledig hon, gofynnwn am ddau beth yn gyfnewid:
- Cwblhau ffurflen adborth syml ar ôl eich ymweliad
- Talu eich anfoneb cyn eich taith
Bydd anfonebau'n cael eu hanfon 4 wythnos ar ôl eich archeb a rhaid talu cyn eich taith. Bydd taliad hwyr yn arwain at llog yn unol â chanllawiau HMRC.
