Mae Richard wedi bod yn hoff iawn o gorachod erioed - falle ffan mwyaf Gorllewin Cymru - felly mi roedd y siawns i chwarae Arwel yn bleser mawr iddo (er bod ei jôc am 'Elfish Preseli' wedi cael ei dorri). Mae Richard wedi gweithio ar draws yr DU yn theatr a teledu a weithiau gallwch ei weld ar teledu ar draws Ewrop yn gwerthu ceir neu iogwrt - stori wir! Roedd Richard wrth ei fodd i fod rhan o'r tîm creadigol ar gyfer byd Cadi ac Arwel ac roedd yn bleser ganddo weithio gyda Tonya (ond paid dweud wrthi, neu efallai geith hi pen mawr!). Mae Richard wir yn ddiolchgar i Theatr na nÓg am ganiatáu iddo i fod yn greadigol yn amseroedd rhyfedd 2020. Diolch, ac fel mae Cadi ac Arwel yn dweud - Byddwch yn addfwyn gyda'ch gilydd.