Y Sio Orau ar Gyfer Plant a Phobol Ifanc - Gwobrau Theatr Cymru 2018

Gan Geinor Styles ac Amy Wadge
ac mean partneriaeth â Technocamps

“when clouds fill up the sky and the rain falls on you…I won’t mind, at least I feel alive’

Drama gerddorol newydd yw Eye of the Storm a fydd yn eich cyffwrdd i’r byw. Drwy gyfrwng caneuon gwreiddiol gan Amy Wadge, enillydd Gwobr Grammy (Thinking Out Loud gydag Ed Sheeran), cawn ddilyn hanes Emmie. A ddylai hi ddilyn ei breuddwyd o fod yn wyddonydd neu a ddylai hi aros adref i ofalu am ei mam? Mae hi mewn penbleth llwyr. Mae ganddi gyfle unigryw i wireddu ei breuddwyd o gael mynd i astudio i America, a rhaid iddi frwydro i sicrhau ei lle ar y cwrs gwyddoniaeth drwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth STEM, gyda’i dyfais anghyffredin am egni adnewyddadwy.

Cyflwynir y stori ysbydoledig yma gan 8 o actorion sydd hefyd yn gerddorion talentog, a nhw fydd yn chwarae’r gerddoriaeth yn fyw ar y llwyfan i bob sioe.
 
Digwyddiad theatrig sy’n taflu goleuni ar berson ifanc dewr, penderfynol ond sydd eto’n llawn tosturi, ac sy’n sicr o swyno ac ysbrydoli pobl ifanc.

Bydd y perfformiadau hwn yn uniaith Saesneg

Cefnogir Theatr na nÓg gan Sefydliad PRS a’i gronfa Beyond Borders

Torf enfawr o bobl yn eistedd fel cynulleidfa ar grisiau yn gwenu a chwifio

Gwahoddwyd ein sioe gerdd i deuluoedd i Gwyl SPARK yn y Tai Kwun Centre for Heritage and Arts yn Hong Kong. Dyma mwy o wybodaeth am SPARK:

Denodd SPARK – y digwyddiad cyntaf o'i fath yn Hong Kong yn dathlu creadigrwydd ar draws y celfyddydau, y gwyddorau ac addysg – dros 14,000 o ymwelwyr i ganolfan treftadaeth a chelfyddydau Tai Kwun rhwng 18-20 Ionawr 2019. Trefnwyd yr ŵyl gan British Council fel man i drafod, i ganfod ysbrydoliaeth ac i feddwl yn weledigaethol. Roedd yr ŵyl yn llawn dop o brofiadau rhyngweithiol, perfformiadau pryfoclyd a sgyrsiau ysgogol.

Denodd SPARK dros 200 o artistiaid, gwyddonwyr ac academyddion o Hong Kong a’r DU ynghyd o dros 50 o sefydliadau celfyddydol ac addysg gan gyflwyno 37 o ddigwyddiadau. Y canlyniad? Platfform bywiog ar gyfer cyfnewid diwylliannol. Rhedodd rhaglen allgymorth ysgolion ochr yn ochr â’r prif ddigwyddiadau a gorau oll, roedd y cyfan AM DDIM!

Cast
Kieran Bailey
Mr Church / Chris
Dan Bottomley
Griff / Ched
Rosey Cale
Emmie
Dan Carter-Hope
Walt
Llinos Daniel
Angela
Caitlin Mckee
Karen
Dan Miles
Lloyd
Barnaby Southgate
Tomos (a Chyfarwyddwr a Threfnydd Cerdd)
Cynhyrchiad
Geinor Styles
Awdur & Chyfarwyddwr
Amy Wadge
Cerddoriaeth & Geiriau
Mike Beer
Cynllunydd Sain
Carl Davies
Cynllunydd
Matt Gibson
Gweithredwr Sain
Alison Palmer
Rheolwr Llwyfan
Andy Pike
Cynllunydd Fideo
Barnaby Southgate
Cyfarwyddwr & Threfnydd Cerdd

Am fwy o wybodaeth ar Eye of the Storm yn cynnwys fideos, gwbodaeth am yr albwm a lluniau:

Cliciwch Yma