Roedd Aneurin Bevan a Jennie Lee yn gymrodyr, wedi rhannu fflat, ac wedi eiriol a brwydro dros sosialaeth; ef o Dredegar, ac yn un o feincwyr cefn penboeth y Blaid Lafur, a hithau’n ferch i löwr o Fife, ac yn AS Sosialaidd cyn ei fod yn ddigon hen i bleidleisio.
Wedyn, bu priodas; ef mewn cariad angerddol, a hithau’n ceisio dygymod â charwriaeth arall oedd newydd ddod i ben. Ill dau’n cael eu caru a’u casáu gan eu cyd-aelodau seneddol; ef oedd y ‘Bollinger Bolshevik’; hithau ei Arglwyddes Macbeth, yr angel dywyll ar ei ysgwydd. Datblygodd eu perthynas yn ystod blynyddoedd didostur y rhyfel, drwy anawsterau sefydlu’r GIG, gelyniaeth fileinig y 1950au, gyda’u cariad yn aeddfedu a dyfnhau. Dyma stori am bartneriaeth unigryw - un o briodasau gwleidyddol mwyaf eithriadol yr ugeinfed ganrif.
Stori NYE & JENNIE

Roedd y sioe yma'n cyd-gynhyrchiad gyda Aneurin Leisure.
Agorodd y sioe yn The Metropole, Abertillery yn mis Tachwedd 2017.
Yna, bu'r cynhyrchiad yn dychwelyd i The Metropole i gychwyn ar daith yn Hydref - Tachwedd 2018. Teithiodd y sioe i'r theatrau canlynol:
Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Caerffili
Y Neuadd Lles, Ystradgynlais
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
Neuadd y Dref Maesteg
Glan yr Afon, Casnewydd
Theatr Brycheiniog
Galeri, Caernarfon
The Studio, Caeredin
Garth Olwg Lifelong Learning Centre, Pontypridd
Theatr Stiwt
Yr Hafren, Trenewydd
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Canolfan Celfyddydau Pontardawe
Y Ffwrnes, Llanelli
The Borough Theatre, Y Fenni
Theatr Torch, Aberdaugleddau




I weld mwy o luniau o'r cynhyrchiad - cliciwch yma