Mae ein pennod gyntaf gyda Phylip Harries a Jack Quick, dau actor llwyddiannus o Abertawe a Chwm Nedd a chyn ddisgyblion Ysgol Gyfun Ystalyfera. Maen nhw'n siarad am eu gyrfaoedd, pwysigrwydd addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a dylanwad yr iaith ar y celfyddydau yng Nghymru. Mae'r cyfweliad yn y Gymraeg gyda is-deitlau Saesneg. 

Roedd Phyl yn rhan o Aesops Fables, cyfres ar-lein a chafodd ei greu yn ystod clolawr. I wylio’r gyfres cliciwch yma

Chwaraeodd Jack 'Byrti' y wenynen yn ein podlediad Gwarchod y Gwenyn. Gallwch wrando ar y podlediad yma

Cwrdd â'n Hartistiaid Cysylltiol yma

Dyma Emma Stevenson-Johnson sydd yn Hyfforddwr Llais a Kev McCurdy sydd yn Gyfarwyddwr Ymladd. Maent yn trafod cychwyn eu gyrfaoedd fel actorion cyn symyd ymlaen i ddatblygu eu hyfforddiant i greu gyrfaoedd newydd. 

Gweithiodd Emma ar Nye & Jennie i helpu'r actores Louise Collins i berffeithio acen Albanaidd Jennie Lee. Am fwy o wybodaeth ar sut i wylio recordiad o’r sioe, cliciwch yma

Mae Mali Tudno Jones a Keiron Self yn trafod eu gyrfaoedd fel ysgrifenwyr ac fel actorion a'r broses o greu eu gwaith. 

Cyfarwyddodd ac addasodd Keiron Y Naid, sef ffilm fer am y peryglon o neidio mewn i'r mor ac afonydd o gwmpas Caerdydd a'r Fro. I wylio'r ffilm cliciwch yma

Cyd-ysgrifennodd Mali Yr Arandora Star, drama radio a gynhyrchwyd yn ystod clolawr i ysgolion ledled Cymru. Bydd y ddrama yn cael ei berfformio’n fyw i ysgolion yng Ngwanwyn 2022. I wrando ar y ddrama radio, cliciwch yma

Mae Barnaby Southgate, Kieran Bailey a Daniel Lloyd yn siarad am eu gyrfaoedd fel actorion a cherddorion.

Perfformiodd Kieran yn ein taith o Eye of the Storm yn hydref 2019. Am fwy o wybodaeth ar sut i wylio recordiad o’r sioe gerdd, cliciwch yma

Ysgrifennodd Barny ein cân Nadolig, Hwyl yr Ŵyl, a pherformiodd Dan yn y fideo cerddoriaeth. Cafodd y gân ei rhyddhau i godi arian i greu gwaith i weithwyr llawrydd yn y diwydiant. I wrando ar y gân cliciwch yma

Yma yn Theatr na nÓg rydym yn ffodus i weithio gyda gweithwyr llawrydd sydd â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth. Am ein pennod olaf mae Geinor yn sgwrsio â Maggie Rawlinson (Cyfarwyddwr Symud), Phylip Harries (Actor, Cerddor, Cyfarwyddwr), Ioan Hefin (Actor, Ysgrifennwr, Cyfarwyddwr) a Greg Palmer (Cyfarwyddwr Cerddorol, Trefnwr a Chyfansoddwr) wrth iddynt wynebu ansicrwydd yn eu proffesiwn.

Roedd Ioan yn rhan o brosiect chwedlau rhyngwladol o'r enw ‘Invisible Threads–Cynnal Pwyth–Susur Jalin’​​. Yn y prosiect, fe welwn artistiaid o Gymru ac o Indonesia yn rhannu 7 stori sydd yn ystyried y pethau tebyg rhwng y ddwy genedl, gan ddathlu ein hieithoedd a'n gwahaniaethau diwylliannol. I wylio y chwedlau cliciwch yma

Cwrdd â'n Hartistiaid Cysylltiol yma