Mae bioamrywiaeth, gwarchod yr amgylchedd, cynaliadwyaeth a chadwraeth yn oll bwysig i ni yn Theatr na nÓg. Mae’r themâu yma yn codi yn ein cynyrchiadau fel Eye of the Storm, Gwarchod y Gwenyn, Heliwr Pili Pala ac You Should Ask Wallace. Rydym wastad yn edrych am ffyrdd i wella ein hôl troed carbon ac rydyn ni eisiau neud gwahaniaeth yn ein canolfan yng Nghastell-nedd. Cawsom syniad i greu ardal wyrdd drws nesaf i’n huned ar y stad ddiwydiannol a gofynnon ni i Ioan Hefin, ein Hartist Cysylltiol, i'n arwain ni. Roedd Ioan wedi chwarae rôl Alfred Russel Wallace, un o’r gwyddonwyr gorau a fu erioed, sawl gwaith yn ein dramâu! Gyda’i wybodaeth ac angerdd am natur a’r amgylchedd, roedd Ioan wedi helpu ni i ddod a’r syniad yn fwy. 

Roedden ni hefyd yn gweithio gyda disgyblion o ysgol leol, Ysgol Gyfun Cefn Saeson. Roedd y disgyblion yn edrych am gyfleoedd i wirfoddoli yn y gymuned. 

Cawsom becyn gardd newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus ac roedd y planhigion, offer a’r deunyddiau i gyd wedi cael eu darparu yn rhad ac am ddim. Rydyn ni'n un o’r sefydliadau cyntaf yn y wlad i elwa ar gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur eleni. I ddarllen mwy am ein gardd gymunedol clicliwch yma

O safbwynt personol, y byd natur yw’r byd sy’n cynnig lloches ac egni i fi wrth geisio digymod da byd dynol. Pan ddaeth cyfle i gyd-weithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus a Theatr na nÓg, mi ddaeth cyfle hefyd i ddechrau sgwrs a stori newydd. Mae pob sgwrs yn gychwynbwynt. Mae sgwrs sy’n trochi dwylo wrth drafod pridd yn siwr o fod yn sgwrs buddiol ac adeiladol.
Ioan Hefin, Artist Cysylltiol Theatr na nÓg
Mae'r ardd wedi bod yn gyfle gwych i'n pobl ifanc gymryd rhan mewn prosiect yn eu cymuned. Dyw ein pobl ifanc ddim fel arfer yn cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau fel hyn ac mae'r staff yn Theatr na nÓg wedi bod yn rhagorol wrth edrych ar ein hôl ni. O'r dechrau roedd y staff yn wych gyda'n pobl ifanc ac yn cynnig llawer o gyfleoedd dysgu iddynt. Roeddent hefyd yn gallu cwblhau tasgau ymarferol na fyddent fel arfer yn cael y cyfle i wneud. Mae'r ardd yn edrych yn wych ac mae'n dangos wrth ystyried y cyfleoedd cywir, gall pobl ifanc fod yn rhan o'u cymunedau a chael ymdeimlad o gyflawniad. Diolch eto i staff Theatr na nÓg a Chadwch Gymru’n Daclus am y cyfle.
Rhys Hearne, Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid