Fel elusen gofrestredig, rydym yn dibynnu ar roddion hael i barhau i ddarparu theatr Gymreig wreiddiol o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt.
Darganfyddwch sut y gallwch cefnogi ein gwaith trwy glicio isod.
Dyma oedd ymgais fwyaf gan y Carcharorion Rhyfel Almaenig i ddianc ym Mhrydain Fawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn wir, fe wnaeth y gymuned gyfan fynd ati i chwilio am y Carcharorion Rhyfel Almaenig - o gwnstabl y pentref i'r wraig fferm!
Stori Alfred Russel Wallace - naturiaethwr Fictoraidd, a ganwyd yng Nghymru, a ddarganfyddodd y Theori Esblygiad, ac wedyn rhannodd y syniad gyda Charles Darwin.
Mewn eiliad o wrthryfel, mae Berti y wenynen yn gadael y cwch gwenyn ac yn penderfynu dilyn ei galon yn hytrach na’r rheolau ac mae e’n mynd i’r goedwig i chwilota am flodau. Ond nawr mae ei ffrindiau mewn trafferth! Rhaid i Berti fod yn ddewr. A fydd e'n llwyddo ac yn achub ei ffrindiau?