'Breeding Boxers on the Breadline'

Yng nghymoedd difreintiedig y 1930au, roedd bocsio yn fwy na fath o chwaraeon; roedd yn ffordd allan o dlodi. Dylai Cuthbert Taylor o Merthyr, sydd nawr yn cael ei weld fel un o focswyr orau ei genhedlaeth, fod wedi cael y cyfle i frwydro am deitl Prydeinig, ond cafodd ei wrthod oherwydd lliw ei groen.

Yn dilyn rhediad llwyddiannus yn 2024, mae The Fight yn dod i Theatr y Sherman yng Nghaerdydd, diolch i gefnogaeth gan Gyngor Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Am Berfformiadau Ysgolion, sgroliwch i lawr.

Ysgrifennwyd gan Geinor Styles

Cyfarwyddwyd gan Kev McCurdy

Trwy ei gymysgedd o gelfyddyd ac eiriolaeth, mae’n profi nad yw cydnabod a dysgu o’r gorffennol yn brofiad anghyfforddus na goddefol. Mae hefyd yn ein hatgoffa bod drwg wedi bod ac y bydd drwg yn y byd, ond os ydym yn dilyn ac yn ymladd fel Cuthbert Taylor, bydd yna lawer mwy o wydnwch, gobaith a daioni bob amser.
Molly Stubbs, Nation.Cymru
Pecynnau

Ysgolion Caerdydd

Bydd y sioe yn Saesneg gyda Chymraeg mewn rhai golygfeydd.

Ar gael Dydd Llun - Dydd Gwener:

  • Perfformiad o'r sioe 'The Fight' yn Theatr Dylan Thomas (am 10yb neu 1yp)
  • Sesiwn Holi ac Ateb gyda'r cast
  • Adnoddau ar-lein am ddim

Cynigir The Fight i ysgolion yn Ninas a Sir Caerdydd am ddim diolch i gefnogaeth gan Gyngor Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Mae sioe newydd gan gwmni arobryn Theatr na nÓg yn cyflwyno’ch plant i themâu fel:

  • Bywyd yng nghymunedau dosbarth gweithiol y cymoedd yn y 1920au-40au
  • Hiliaeth sefydliadol, mewnfudo a gwladychiaeth
  • Hanes bocsio ddoe a heddiw

Baner oren gyda llun o focsiwr, testun sy'n darllen 'The Fight', Directed by Kev McCurdy, Written by Geinor Styles.

Adnoddau Ysgol Uwchradd The Fight

'Wedi'i berfformio'n chwaethus, fe wnaeth y perfformiad ysgogi emosiynau dwfn o dristwch ac anghyfiawnder, gan amlygu realiti poenus gwahaniaethu. Trwy ei naratif gafaelgar a'i ddull sensitif, gadawodd y ddrama effaith barhaol, ar athrawon a phlant fel ei gilydd, gan ein hannog i fyfyrio ar gamweddau rhagfarn a phwysigrwydd cydraddoldeb.'
Athrawes Blwyddyn 6, Ysgol Gynradd Dewi Sant
Cast
Tonya Smith
Margaret & Mrs Price
Zach J Levene
Charlie Taylor & Milwr
Simeon Desvignes
Cuthbert Taylor
Cynhyrchiad
Kev McCurdy
Director
Geinor Styles
Awdur
Carl Davies
Cynllunydd
John Rea
Composer
Elanor Higgins
Dylunydd Goleuadau
Ceri James
Dylunydd AV
Emma Stevens Johnson
Hyfforddwr Llais
Ian Barnard
Cynllunydd Sain
Alison Palmer
Rheolwr Cynhyrchu
Cefnogwyr