Ar gyfer y perfformiadau cyhoeddus yn Theatr Brycheiniog (yn Saesneg), cliciwch yma
Bydd y sioe yn Saesneg gyda Chymraeg mewn rhai golygfeydd.
'Breeding Boxers on the Breadline'
Yng nghymoedd difreintiedig y 1930au, roedd bocsio yn fwy na fath o chwaraeon; roedd yn ffordd allan o dlodi. Dylai Cuthbert Taylor o Merthyr, sydd nawr yn cael ei weld fel un o focswyr orau ei genhedlaeth, fod wedi cael y cyfle i frwydro am deitl Prydeinig, ond cafodd ei wrthod oherwydd lliw ei groen.
Perffaith ar gyfer Cam Cynnydd 3
Mae sioe newydd gan gwmni arobryn Theatr na nÓg yn cyflwyno’ch plant i themâu fel:
- Bywyd yng nghymunedau dosbarth gweithiol y cymoedd yn y 1920au-40au
- Hiliaeth sefydliadol, mewnfudo a gwladychiaeth
- Hanes bocsio ddoe a heddiw
Byddwch yn rhan o’n prosiect Hydref ac yn un o’r nifer o ysgolion rydym yn gweithio gyda nhw i gefnogi cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru mewn ffordd greadigol a hwyliog. Dyma ein 35ain blwyddyn o greu theatr unigryw o ansawdd uchel i ysgolion, ar hyn o bryd mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Technocamps. Datblygu a chefnogi pobl ifanc i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus o Gymru a'r Byd.
Ysgrifennwyd gan Geinor Styles
Cyfarwyddwyd gan Kev McCurdy
Abertawe
Ysgolion Cynradd:
Ar gael Dydd Mawrth i Ddydd Gwener (Dwyieithog)
Diwrnod llawn gweithgareddau:
- Perfformiad o'r sioe 'The Fight' yn Theatr Dylan Thomas (am 10yb neu 1yp)
- Holi ac Ateb gyda'r cast
- Gweithdai am ddim yn Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu'r sioe
Manylion gweithdy Amgueddfa Genedlaethol y Glannau:
Dewch i ddarganfod beth oedd bywyd fel yng nghymunedau diwydiannol yng Nghymru yn y 1920au.
Camwch nôl i’r gorffennol a phrofi themâu fel: meddyginiaethau cyn GIG, bywyd y pwll glo, chwaraeon a mwy trwy arteffactau a storiâu sydd yn dod a’r gorffennol yn fyw!
Ysgolion Uwchradd:
Ar gael ar Ddydd Llun a dyddiau eraill ar ofyn:
- Perfformiad o'r sioe 'The Fight' yn Theatr Dylan Thomas (am 10yb neu 1yp)
- Sesiwn Holi ac Ateb gyda'r cast
- Amser i edrych o gwmpas Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (dewisol)
- Adnoddau ar-lein am ddim
Aberhonddu
Ysgolion Cynradd:
Ar gael Dydd Mawrth i Ddydd Iau (19eg-21ain Tachwedd)
Diwrnod llawn gweithgareddau:
- Perfformiad o'r sioe 'The Fight' yn Theatr Brycheiniog (am 10yb neu 1yp)
- Holi ac Ateb gyda'r cast
- Gweithdy gydag ymarferydd drama yn ôl yn yr ysgol
- Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu'r sioe
Ysgolion Uwchradd:
Ar gael ar Ddydd Mawrth i Ddydd Iau:
- Perfformiad o'r sioe 'The Fight' yn Theatr Brycheiniog (am 10yb neu 1yp)
- Sesiwn Holi ac Ateb gyda'r cast
- Adnoddau ar-lein am ddim
Faint mae’n ei gostio?
Rydym yn derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a gan nifer o Ymddiriedolaethau a Sefydliadau tuag at gostau’r prosiect.
Byddwn yn defnyddio’r cyllid hwn er mwyn gostwng y pris i chi, gan ei ostwng i
£9+TAW ar gyfer pob disgybl / oedolyn yn ogystal ag un tocyn oedolyn am ddim gyda phob 10 disgybl.
Fel amod i’r cyllid hwn, mae angen i ni gasglu adborth gan bob cyfranogwr.
Er mwyn derbyn y pris gostyngol hwn, rydym yn gofyn am dri pheth:
1. Eich bod yn arwyddo’ch contract archebu a fydd yn cael ei e-bostio atoch a’i ddychwelyd oddi fewn 7 diwrnod o’i dderbyn.
2. Eich bod yn cwblhau arolwg syml, ar-lein oddi fewn i 10 diwrnod o’ch ymweliad.
3. Eich bod yn talu’ch anfoneb oddi fewn 30 diwrnod wedi’ch ymweliad.
Byddwn yn anfon negeseuon atoch i’ch atgoffa, felly does ddim angen i chi boeni am anghofio gwneud hyn.
Blaenwelediad yr Athrawon
10fed Medi am 2:30yp yn Theatr Dylan Thomas, Abertawe
-
Eich cyfle i weld y perfformiad yn y theatr i baratoi ar gyfer dod â'ch grŵp
-
Clywch am y gweithgareddau sydd ar y gweill yn yr amgueddfeydd
-
Rhowch eich adborth i ni
Rydym yn argymell yn gryf bod un athro o'ch ysgol yn mynychu i gael y gorau o'r prosiect. Ar gyfer ysgolion o ymhellach i ffwrdd, byddwn yn cynnal sgwrs ar-lein eleni, ond ni fydd hyn yn cynnwys y perfformiad.
Gallwch roi gwybod i ni os gallwch ei wneud ar y ffurflen archebu, ond byddwn yn anfon nodiadau atgoffa!