Ysgrifennwyd gan Geinor Styles gyda cherddoriaeth a geiriau gan Amy Wadge, wedi'i gyfieithu gan Gwawr Loader.
Sioe gerdd arobryn am ddilyn stormydd a newid y byd
Dewch i gwrdd ag Emmie Price.
Bu’r 5 mlynedd ddiwethaf yn rhai stormus iddi. Mae ei byd yn cynnwys edrych ar ôl ei mam, sy’n dioddef o anhwylder deubegynol, dilyn diddordeb angerddol mewn corwyntoedd a gwneud yn sicr ei bod yn llwyddo yn yr ysgol. Ond, gwyr Emmie, un diwrnod y bydd popeth yn newid. Un diwrnod, mi fydd hi’n dilyn stormydd. . . yn America.
Pan fydd cyfle’n codi i dderbyn bwrsari i astudio yn UDA, a all hi gadw’i lle ar y cwrs ac ennill y gystadleuaeth STEM gyda’i dyfais newydd ar gyfer ynni adnewyddadwy?
Lleolir y ddrama yng Nghymoedd Cymru ac mae iddi gerddoriaeth fywiog, sy’n tynnu ar elfennau Americana gan yr enillydd Gwobrau Grammy, Amy Wadge (Thinking Out Loud gydag Ed Sheeran, Un Bore Mercher) ac sydd yn cael ei pherfformio’n fyw, ar lwyfan gan gast o 7 o actorion a cherddorion dawnus.
Yn berffaith ar gyfer Blynyddoedd 5 ac i fyny
Mae sioe arobryn Theatr na nÓg yn cyflwyno eich disgyblion i themâu megis:
- Egni adnewyddadwy
- Gofalwyr ifanc a’u cyfrifoldebau
gyda chysylltiadau i’r holl Feysydd Dysgu a Phrofiad
Byddwch yn rhan o’n prosiect Hydref ac yn un o’r nifer o ysgolion rydym yn gweithio gyda nhw i gefnogi cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru mewn ffordd greadigol a hwyliog. Dyma ein 36ain blwyddyn o greu theatr unigryw o ansawdd uchel i ysgolion, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Technocamps. Datblygu a chefnogi pobl ifanc i fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus o Gymru a’r Byd.
Y Sioe orau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc – Gwobrau Theatr Cymru 2018
Ysgolion Cynradd:
Perfformiadau Cymraeg: 17eg-26ain o Fedi 2025
Perfformiadau Saesneg: 2il-24ain o Hydref 2025
Diwrnod llawn gweithgareddau (ar gael ddydd Mawrth-Gwener)
- Perfformiad sioe Dal y Gwynt yn Theatr Dylan Thomas (am 10yb neu 1yp)
- Sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r cast
- Gweithdai am ddim yn Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Adnoddau ar-lein rhad ac am ddim yn gysylltiedig â themâu'r sioe
- Gweithdai dewisol gyda Technocamps yn eich ysgol
Hygyrchedd
Rydym yn ymdrechu i wneud ein sioeau mor hygyrch â phosib. Rydym yn darparu stori weledol a chymdeithasol ar gyfer y sioe ar gyfer disgyblion sydd efallai ag ADY neu bryderon ynghylch mynychu. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion mynediad cyn gynted â phosibl, a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar eu cyfer. Gallwn gynnig teithiau cyffwrdd, disgrifiad sain a dehongliad BSL os trefnir ymlaen llaw.
Ysgolion Cyfun:
Perfformiadau Cymraeg: 17eg-26ain o Fedi 2025
Perfformiadau Saesneg: 2il-24ain o Hydref 2025
Ar gael ar ddydd Llun a diwrnodau arall ar gais:
- Perfformiad sioe Dal y Gwynt yn Theatr Dylan Thomas (am 10yb neu 1yp)
- Sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r cast (ac aelodau eraill o’r tîm ar gais)
- Adnoddau ar-lein rhad ac am ddim yn gysylltiedig â themâu'r sioe
Mae’r sioe hon yn berffaith ar gyfer ystod eang o ddisgyblion, o Saesneg i Gymraeg ail-iaith, Drama, Gwyddoniaeth a Daearyddiaeth!
Faint mae’n ei gostio?
Disgyblion: £12 yr un (cynnwys TAW)
Un athro am ddim i bob deg disgybl
Oedolion ychwanegol: £12 yr un
Cynorthwywyr Addysgu 1 i 1: Am ddim
Rydym yn derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i roi cymhorthdal sylweddol i'ch ymweliad. Fel rhan o'r cyllid hwn, mae angen i ni adrodd yn ôl i'n cyllidwyr gydag adborth gan gyfranogwyr.
Er mwyn derbyn y gost hon â chymhorthdal, gofynnwn am dri pheth wrthoch chi:
1. Arwyddo eich cytundeb archebu o fewn 7 diwrnod o’i derbyn
2. Cwblhau ffurflen adborth syml ar ôl eich ymweliad
3. Talu eich anfoneb o fewn 30 diwrnod o’i derbyn
Bydd anfonebau'n cael eu danfon cyn eich taith ar ddechrau’r flwyddyn ysgol ac mae’n rhaid ei dalu o fewn 30 diwrnod. Bydd taliadau hwyr yn golygu llog yn unol â chanllawiau HMRC.
Blaenwelediad Athrawon
17eg o Fedi (yn Gymraeg) a 1af o Hydref (yn Saesneg) am 2:30yp-4:30yp yn Theatr Dylan Thomas.
Cyfle i chi:
- Gwylio’r perfformiad cyn dod â’ch disgyblion
- Clywed am y gweithgareddau yn yr amgueddfeydd
- Rhoi adborth i ni
Rydym yn awgrymu’n gryf bod un athro o’ch ysgol yn mynychu er mwyn cael y mwyaf allan o’ch taith. Os nad ydych yn gallu mynychu, gallwn drefnu galwad ffôn gyda Sebastian, Cydlynydd Ymgysylltu Creadigol, i siarad trwy’r diwrnod a’r adnoddau.
2025 Cast to be announced
