Mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Technocamps

Pam mae yna gymaint o wahanol rywogaethau?

Mae Theatr na nÓg, sydd wedi ennill llu o wahanol wobrau yn eich gwahodd i ddod ar antur ag un o’r gwyddonwyr gorau a fu erioed wrth iddo geisio ateb y cwestiwn mawr pwysig hwn.

Ag yntau wedi ei eni yng Nghymru, daeth Alfred Russel Wallace ar draws theori esblygiad yn ystod yr un amser â Charles Darwin a hynny wedi iddo ganfod chwilen anghyffredin yng Nghwm Nedd. Dewch ar fordaith anhygoel o Gymru i Frasil ac Archipelago Malay gan archwilio’r jyngl ac ynysoedd anghysbell wrth i ni ddilyn yn ôl troed Wallace a gweld sut ddaeth ei theori i fod.

Mae’r ddrama’n cynnwys adrodd stori hudolus, elfen ryngweithiol lle y gall y gynulleidfa fynd ar eu taith eu hunain a chyfle i:

* Ddysgu sut beth oedd bywyd ar gyfer anturiaethwyr Oes Fictoria
* Dadorchuddio cyfrinachau’r byd naturiol sydd o’ch amgylch
* Canfod sut allwch gefnogi natur drwy warchod yr amgylchedd, cynaliadwyaeth a chadwraeth

Mae’r cynhyrchiad hwn yn nodi 30 mlynedd o brosiect theatr ysgolion Theatr na nÓg a hynny yn Theatr Dylan Thomas. Ymunwch â ni er mwyn dathlu tri degawd o adrodd straeon a gweithdai sydd wedi bod yn agoriad llygad gan ein partneriaid yn yr amgueddfa. Cynlluniwyd y cyfan er mwyn ysbrydoli plant i weld y byd sydd o’u hamgylch mewn goleuni gwahanol.

Perffaith ar gyfer Bl 5 & 6

Cast
Kate Elis
Mary Wallace/Athrawes /Bates/Buwch Goch Gota
James Ifan
Alfred Russel Wallace
Richard Nichols
Thomas Wallace/John Wallace/Dyn Fferi/William Wall
Cynhyrchiad
Geinor Styles
Awdur & Chyfarwyddwr
Ian Barnard
Cynllunydd Sain
Geraint Chinnock
Rheolwr Cynhyrchu
Ruby Gibbens
Dylunydd a Gwneuthurwr Pypedau
Daniel Lloyd
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Frances Norburn
Cynllunydd
Barnaby Southgate
Cyfansoddwr a Chyfarwyddwr Cerddorol
Hristo Takov
Cynllunydd Goleuo
Stori weledol
Cefnogwyr